{ko: i forfydd ag i ddymyno help Ddwnwen oi chael hi}
1 Dwynwen deigr arien degwch
2 da i gwyr o gor flamgwyr flwch
3 dy ddelw aur diddoluriaw
4 digion druain ddynion draw
5 dyn a wilio gloywdw glan
6 yn dy gor Indeg eirian
7 nid oes glefyd na bryd brwyn
8 a êl ynddo o Landdwyn
9 [288] dy laesblaid yw dy lwysblwyf
10 dolurus ovalus wyf
11 y vron hon o hoed gordderch
12 y sydd yn vnchwydd o serch
13 hirwaew osail govailiaint
14 herwydd i gwnn hwn yw'r haint
15 oni chaf o byddaf byw
16 Vorvudd llyna overvyw
17 gwna vi'n iach wiwiach wawd
18 o'm anwychder a'm nychdawd
19 cymmysc lateirwydd vlwyddyn
20 a rhadau Duw rhod a dyn
21 nid rhaid ddelw euraid ddilyth
22 yt ofn pechawd vethlgnawd vyth
23 nid adwna da i dangnef
24 Duw a wnaeth nid ai o nef
25 nith wyl mursen yleni
26 yn husting yn ing a ni
27 ni rydd eiddig ddig wydnbwyll
28 warfon yt wyryf i phwyll
29 tynn oth obr taw ni thybir
30 wrthyd wyryf gymlegyd hir
31 o Landdwyn dir gynired
32 i gwmm y gro gemm o gred
33 Duw nith oeddawdd hawdd hedd
34 dawn iaith aml dyn nith omedd
35 diamav weddiav waith
36 Duw ath eilw du i thalaith
37 delid Duw dy letuywr
38 del o gof dwylaw y gwr
39 traws oedd ir neb ai treisiai
40 tra ddel imol trwy ddail Mai
41 Dwynwen pei parvd vnwaith
42 dan ddydd Mai a hirddydd maith
43 dawn y bardd da wen ybych
44 Dwynwen nid oyddyd anwych
45 dangos oth radau [ ] downgoeth
46 nad wyd vursen ddwynwen ddoeth
47 er a wnaethost yn ddownbwys
48 obenyd y byd ai bwys
49 er y crefydd fydd fyddryw
50 a wnevthost tra vvost vyw
51 er yr eirian leianaeth
52 a gwyrfdawd y coethgnawd caeth
53 [289] er enaid os rhaid yrrhawg
54 Brychan yrth breichiae nerthawg
55 eiriol er dy grevol gred
56 yr em wyryf roi 'mwared
Dauid ap Gwilim